Sefydlwyd y busnes fel D. I. Evans & Sons yn 1946 gan Mr D. I. Evans, sef tad Mr Elfed Evans, gan gynnig gwasaneth contractio amaethyddol a hurio peiriannau.
Yn 1983 ymddeolodd Mr D. I. Evans a chafwyd dilyniant o’r busnes teuluol gan Mr Elfed Evans a’i wraig Mrs Janet Evans. Yna yn 2003, daethpwyd i benderfyniad i newid partneriaeth y busnes i fod yn gwmni cyfyngedig o dan enw D. I. Evans Cyf.
Ar hyn o bryd mae cenhedlaeth newydd o'r teulu wedi cymeryd yr awennau o redeg y busnes.
Dros y blynyddoedd mae’r busnes wedi ehangu a newid yn ôl y galw a’r gofynion ar y pryd. Rhan fach iawn o’r busnes yw’r contractio amethyddol bellach, ac wedi ystyriaeth fanwl fe arall-gyfeiriwyd i ganolbwyntio ar waredu gwastraff. Dyma’r elfen o’r busnes sy’n datblygu ar hyn o bryd a rhoi’r pwyslais cynyddol ar ailgylchu. Cynyddwyd y staff yn raddol dros y blynyddoedd ac mae’n debygol bydd cynydd eto yn y dyfodol agos.
Rhan o ddatblygiad y busnes oedd cael Safle Trosglwyddo Gwastraff yn y pencadlys ym Meulah, gyda chaniatad cynllunio a thrwydded Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r safle yn rhoi pwyslais mawr i ailgylchu gymaint a phosibl o’r gwastraff. Gyda’r galw cynyddol am fwy a mwy o ailgylchu gwastraff mae cyfarwyddwyr D. I. Evans Cyf. yn ffyddiog mai dyma’r ffordd ymlaen i’r cwmni.
Nôd rheowyr y busnes yw cynnig gwasaneth proffesiynol ac effeithiol, gyda naws deuluol Cymreig. Rhoddir sylw mawr i Iechyd a Diogelwch gweithwyr, cwsmeriaid a’r cyhoedd gan fod hyn yn bwysig i lwyddiant y busnes.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you would like to change your preferences you may do so by following the instructions here.