cwmni Rheoli Gwastraff o geredigion
Cwmni teuluol yw D. I. Evans Cyf. sydd wrth law i ddarparu pob math o wasanaethau rheoli gwastraff, draenio a hurio peirianau i'n cwsmeriaid. Gyda dros 75 mlynedd o brofiad mewn darparu gwasanaeth dibynadwy a dwyieithog, does dim dewis gwell i'w gael!
Croeso / Welcome
Croeso i wefan D. I. Evans Cyf. Gobeithio gall y safle hwn roi rhyw fath o amcan i chi o’r math o waith a gynigir. Fel y gwelwch wrth bori trwy’r wefan, mae’r cwmni teuluol hwn wedi newid tipyn ers i D. I. Evans ei ddechrau dros 75 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn ailgylchu yw ein prif nôd, ond hefyd cynigiwn wasanaethau amrywiol eraill.
Y prif wasanaethau a gynigir ar hyn o bryd yw:
Y prif wasanaethau a gynigir ar hyn o bryd yw:
- Ailgylchu Gwastraff
- Hurio Sgipiau o bob maint
- Gwaredu Gwastraff Hylifol
- Gwagio Tanciau Septig
- Chwistrellu Pwysedd Uchel
- Arolwg Draeniau gyda Chamera Cylch Cyfun
- Gosod Tanciau Carthion a Thyllau Archwilio
- Atgyweirio ac Adnewyddu Draeniau
- Cysylltu Dreiniau a Phibellau Carthion ar Briffyrdd
- Hurio Peiriannau Amrywiol
- Paratoi Safleoedd i Waith Adeiladu Masnachol, Preifat ac Amaethyddol
- Dymchwel Adeiladau
- Gwasanaethau gyda thrwydded CHAS
- Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Drwyddedig